|
Parhau mae llwyddiant anhygoel seiclwyr Prydain yn Beijing gyda Chris Hoy a Victoria Pendleton yn cipio medalau aur.

Mae'r tîm seiclo wedi cipio cyfanswm o saith medal aur yn y Velodrome gyda Hoy yn sicrhau ei drydedd medal aur o'r Gemau ar ôl trechu ei gyd Brydeiniwr, Jason Kenny.
Yn ôl y disgwyl cipiodd Paul Goodison fedal aur yn yr hwylio - bedair blynedd wedi iddo fethu â sicrhau medal yng Ngemau Athen.
Ac yn y 'Nyth' fe enillodd Prydain eu medal aur gyntaf yn yr athletau gyda Christine Ohuruogu yn fuddugol yn y 400m.
Yn gynharach roedd Germaine Mason wedi sicrhau medal arian annisgwyl yn y naid uchel.
Wedi unarddeg diwrnod o gystadlu, mae Prydain wedi sicrhau un ar bymtheg medal aur - eu perfformiad gorau yn y Gemau ers canrif.
Yn y bocsio mae Tony Jefferies yn sicr o fedal wedi iddo drechu Imre Szello o Hwngari o mewn gornest pwysau is-drwm.
Bydd y Sais yn wynebu Kenny Egan o Iwerddon yn y rownd gyn derfynol ddydd Gwener.
Yn y cystadlaethau pêl-droed, mae dynion Nigeria drwodd i'r rownd derfynol ar ôl buddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Gwlad Belg.
Yr Ariannin, enillwyr y fedal aur yn Athen, fydd eu gwrthwynebwyr ar ôl trechu Brasil o 3-0.
Yn nhwrnament y merched bydd y deiliad yr Unol Daleithiau yn wynebu Brasil yn y rownd derfynol ddydd Iau.
 |