|
Liu Xiang oedd gobaith mawr Tsiena am fedal aur ar y trac athletau yng Ngemau Beijing.

Ond tynnodd allan o'i ragras yn y 100m dros y clwydi oherwydd anaf er mawr siom i'r miloedd oedd yn bresennol yn y Nyth i'w wylio.
Sicrhaodd Dayron Robles o Cuba, sy'n dal y record byd, ei le yn y rownd nesaf ynghyd â'r Prydeinwyr Andrew Turner ac Allan Scott
Cipiodd Prydain fedal arall yn y cystadlaethau hwylio gyda Nick Rogers a Joe Glanfield yn hawlio arian.
Ac fe fydd Paul Goodison yn cipio'r fedal aur ddydd Mawrth os yw'n osgoi gorffen yn olaf.
Yn y bocsio mae David Price yn sicr o fedal yn y gystadleuaeth pwysau uwch drwm.
Sicrhaodd Price ei le yn y rownd gyn derfynol wedi i anaf ddod â chystadleuaeth Jaroslav Jaksto o Lithwania i ben.
Ond roedd siom i Beth Tweddle yn y gymnasteg gan orffen yn bedwerydd yng nghystadleuaeth y bariau anwastad.
Mewn cyfweliad wedi'r gystadleuaeth gwadodd Tweddle ei bod yn ystyried ymddeol.
Ac mae gobeithion y Gymraes Sarah Thomas a thîm hoci merched Prydain o sicrhau medal ar ben wedi gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn yr Unol Daleithiau.
 |