|
Torrodd Bolt record blaenorol Michael Johnson o 19.32 eiliad wrth iddo groesi'r llinell derfyn ymhell o flaen y gweddill mewn amser anhygoel o 19.30.
Roedd y gŵr o Jamaica, sy'n 21 mlwydd oed, eisoes wedi sefydlu record byd newydd yn y 100m wrth ennill yr aur.
Adroddiad Rhodri Llywelyn o Beijing
Methodd Malcolm ag ailadrodd ei berfformiad yn y rownd flaenorol wrth iddo orffen mewn amser eithaf siomedig o 20.40 eiliad.
Croesodd y llinell yn y seithfed safle ond cafodd ei ddyrchau i'r bumed safle ar ôl i Churandy Martina o Ynysoedd Iseldiroedd y Caribî a Wallace Spearmon o'r Unol Daleithiau gael eu gwahardd am redeg tu allan i'w lôn.
Spearmon oedd yn ail yn wreiddiol, gyda Martina yn drydydd.
"Nes i ddim rheged yn dda iawn o gwmpas y tro a doeddwn i ddim digon da," meddai Malcolm o Gasnewydd. "Ond dwi wedi mwynhau bod yma.
"Mi wnes i gyrraedd y rownd derfynol a dwi wedi cael tymor heb anafiadau - mi allaf adeiladu ar hyn. Dwi'n gwella ac yn edrych ymlaen at y tymor nesaf."
Yn dilyn y gwharddiadau, Shawn Crawford o'r Unol Daleithiau gafodd y fedal arian, gyda'i gydwladwr Walter Dix yn cael yr efydd.
 |