|
Roedd y Cymro yn edrych i wella ar y fedal efydd enillodd yn Athen yn 2004 ond roedd y gystadleuaeth yn y Ciwb Dwr yn Beijing yn un hynod gystadleuol.
Syfrdanwyd y ffefryn Grant Hackett wrth i Oussama Melloui ennill y fedal aur i Tiwnisia.
Rhodri Llywelyn yn holi David Davies wedi'r rownd derfynol
Ryan Cochrane o Ganada oedd yn drydydd gyda Davies yn cwblhau'r ras mewn amser o 14 munud 52.11 eiliad, chwe eiliad union yn arafach na'r hyn a gyflawnodd yn y ras rhagbrofol ddydd Gwener.
Meddai Davies: "Roedd y ras yn eithriadol o gyflym, mae rhai o'r amseroedd yma yn Beijing yn anhygoel.
"Roedd hi'n ymdrech hyd yn oed i gyrraedd y rownd derfynol ac roedd y tanc yn wag erbyn y diwedd."
Fe fydd Davies yn gobeithio am fwy o lwyddiant yn y ras 10k agored ddydd Gwener.
 |