ChwaraeonPêl-droed Abertawe Caerdydd Casnewydd Wrecsam Uwchgynghrair Cymru Pêl-droed Cyffredinol Rhyngwladol Rygbi Rhyngwladol Rhanbarthol Athletau Beicio Bocsio Criced Cyffredinol Golff Moduro Olympaidd Rasio Ceffylau Rygbi XIII Snwcer Tenis Canlyniadau
Methiant fu ymgais y Cymro Thomas Haffield yn rhagras y ras gymysg unigol dros 400m ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Beijing.
Gorffennodd y nofiwr ifanc o Gastell-nedd yn seithfed mewn amser o 4:16:72.
Wedi'r ras fe ddywedodd ei fod wedi mwynhau'r profiad o gystadlu yn y Gemau Olympaidd.
Ond ychwanegodd Haffield ei fod yn siomedig nad oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.
Yr Americanwr Michael Phelps yw'r ffefryn i ennill y rownd derfynol ddydd Sul.