ChwaraeonPêl-droed Abertawe Caerdydd Casnewydd Wrecsam Uwchgynghrair Cymru Pêl-droed Cyffredinol Rhyngwladol Rygbi Rhyngwladol Rhanbarthol Athletau Beicio Bocsio Criced Cyffredinol Golff Moduro Olympaidd Rasio Ceffylau Rygbi XIII Snwcer Tenis Canlyniadau
Mae James Roberts o Abertawe wedi cael ei gynnwys yn nhîm rhwyfo Prydain ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn Beijing.
Fe fydd y myfyriwr 22 oed yn cystadlu yn y sgwlio dwbl cymysg gyda Karen Cronie o Ogledd Iwerddon
Roedd Roberts wedi ennill lle yng ngharfan tîm nofio Prydain yn 2004 a 2005 cyn penderfynu newid ei gamp.
Dywedodd Roberts: "Dw i wrth fy modd i gael cynrychioli fy ngwlad ar y lefel uchaf."