|
Bydd pedwar o'r cystadleuwyr ymysg tîm o 35 yn cymryd rhan yn y Gemau am y tro cyntaf.
Yn 16 oed credir bod Rebecca Chin o Ddeganwy ymysg y ieuengaf i gynrychioli Prydain yn y Gemau.
Y gemau yn Tsiena bydd y trydydd tro i Beverley Jones o Queensferry gystadlu yn y Gemau Paralympaidd
Cystadleuydd profiadol arall yw Tracy Hinton, fydd yn cynrycholi Prydain am y pumed tro.
Y cystadleuwyr eraill o Gymru fydd yn cymryd rhan yn y Gemau Paralympaidd yw John McFall a Nathan Stephens, Brian Alldis a Claire Williams.
 |