|
Yr oedd Morris, anwyd ar Ynys Môn, wedi cael tan fis Rhagfyr i brofi ei ffitrwydd ac fe enillodd hanner marathon Bedford yn ddiweddar.
Daeth i amlygrwydd ar ôl gorffen yn ddegfed ym marathon Llundain yn 2004 ac fe gynrychiolodd Prydain yng Ngemau Olympaidd Athen y flwyddyn honno.
Meddai chef de mission Cymru, Anne Ellis: "Mae Tracey yn cryfhau carfan gryf."
Cafodd Natalie Lewis a Chris Davies eu hychwanegu i'r garfan athletau yn gynharach yn y mis a bydd Jan Nugent a Adrian Thomas fel rheolwyr y tîm.
"Rydym wedi dewis y garfan gryfa' posib ar gyfer y cystadleuthau trac a maes yn y Gemau," meddai cyfarwyddwr hyfforddi athletau Cymru, Phil Banning.
"Yn Natalie a Chris mae gennym ddau o athletwyr hynod brofiadol fydd yn edrych ymlaen i gynrychioli Cymru ar y lefel uchaf."
 |