Morris yn paratoi
21 Ebrill 2004
Dywed seren newydd y marathon, Tracey Morris, na fydd yn cael ei brysio i baratoi ar gyfer y Gemau'r Olympaidd.
"Rwyf am eistedd yn ôl a phenderfynu beth fydd orau i mi," meddai'r athletwraig 36 mlwydd oed wedi synnu pawb wrth sicrhau lle ar gyfer Athen yn ystod marathon Llundain.
"Rwyf am i bopeth ddychwelyd i'r ffordd oeddent (cyn y penwythnos) er mwyn fy nghaniatau i baratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd yn y modd gorau posib.
"Yn amlwg, mae gennyf lawer mwy o gyfrifoldeb ar f'ysgwyddau bellach."
> Morris ar y ffordd i Athen
Synnwyd y byd athletau wrth i'r Gymraes, sydd yn byw yn Leeds, groesi'r llinell derfyn yn Llundain fel y ferch cyntaf o Wledydd Prydain, ac mae hi wedi ei synnu cymaint â'r holl sylw yn y wasg.
"Roedd y wasg yn disgwyl amdanaf - roeddent hyd yn oed yn gwybod ar ba drên roeddwn yn cyrraedd yn ôl," meddai'r optegwraig.
"Mae'n swreal, mae pawb yn dal i sôn am y ras. Nes i erioed feddwl byddwn i yn y fath sefyllfa.
"Paula [Radcliffe] yw fy arwr. Mae'n anodd credu fy mod yn mynd i fod yn yr un tîm â hi."
Mae Morris yn bwriadu eistedd i lawr â'i hyfforddwr, Steve O'Callaghan, er mwyn penderfynu sut i baratoi ar gyfer y ras fwyaf yn ei bywyd yng Ngwlad Groeg ar 22 Awst.
Mae Morris wedi tynnu allan o ras hanner-marathon Leeds gan y bydd yn ymuno â phrif athletwyr Prydain mewn camp ymarfer ar ynys Cyprus rhwng 12-17 Mai.
"Nid wyf wedi derbyn gwahoddiad i gystadlu yn y BUPA Great Manchester Run ar 23 Mai - y ras yn Leeds oedd yr unig un yr oeddwn wedi trefnu," meddai Morris.