Leinster 33-14 Dreigiau
17 Medi 2005
Sgoriodd Felipe Contepomi 23 o bwyntiau wrth i Leinster drechu'r Dreigiau yn Donnybrook.
Chwaraeodd Contepomi ran allweddol gyda saith gic cosb yn ogystal â throsi cais Girvan Dempsey i sicrhau ail fuddugoliaeth y Gwyddelod o'r tymor.
Capten tîm dan-19, Robert Kearney, sgoriodd gais arall Leinster.
Leigh Hinton a Hal Luscombe groesodd am geisiau'r Dreigiau, oedd yn chwarae eu hail gêm mewn pedair diwrnod.