BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003
Detholwyr
Enillwyr
Arddangosfa
Dewis y Bobl Comisiwn Madog
Cynllun preswyl Maldwyn
Gwobr Ifor Davies
Iorwerth Peate
Ackroyd Harvey
Derek Williams


Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 






Arddangoswr: Sarah Britten-Jones

Dathlu'r gwychder sydd i'w gael mewn pethau defnyddiol ac amherffaith y mae fy ngwaith. Byddaf wrth fy modd â'r cymeriad a'r nodweddion sy'n rhan o gorff y clai a byddaf yn mwynhau gweld y modd y mae'r deunydd yn trawsnewid, o frown meddal gwylaidd i liwiau pinc, aur a glas ysblennydd.

Mae fy narnau addurniadol yn rhai chwareus a lliwgar ac y maent wedi eu hysbrydoli gan y fasys Ewropeaidd o'r 18fed a'r 19eg ganrif sydd i'w gweld yn y V&A, a chan ffasiwn a hiwmor.


Llestri pridd yw'r fasys addurniadol. Mae'r darnau wedi eu llunio â llaw a'u mowldio trwy wasgu, eu torri a'u hailosod ac y maent yn defnyddio lliwiau dan wydredd ac addurniadau sbrigog.

Mae'r plygiadau a'r toriadau yn y clai yn nodweddiadol o'r broses hon ac y maent yn nodweddion y byddaf yn eu mwynhau ac yn eu hamlygu.

Mae'r rhan fwyaf o'r darnau yn defnyddio decalau seramig neu drosluniau â sglein fetelaidd, gan gynnwys aur, copr a platinwm. Byddaf yn defnyddio gwydredd tryloyw di-blwm ond nid wyf yn bwriadu i'r darnau gael eu defnyddio; maent yn cael eu gwerthfawrogi orau ar sail eu golwg tra addurnol a chwaethus.


Artistiaid
A - H | I - O | P - Y

Rhestr yr enillwyr

Dewis y Bobl

Detholwyr

ysgoloriaeth pensaerniaeth
Laura Clark Laura Clark
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Rwyf newydd gwblhau fy addysg bensaernïol yn Ysgol Bensaernïaeth Mackintosh yn Glasgow. Pensaernïaeth a chelf fu prif ddiddordebau fy mywyd erioed.
Lucie Phillips Lucie Phillips
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn pensaernïaeth pan oeddwn i'n bedair ar ddeg oed.
y fedal aur - pensaerniaeth
Penseiri Nicholas Hare Penseiri Nicholas Hare
Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - Gwobr Goffa Alwyn Lloyd am Rhif 1. Sgwâr Callaghan, Caerdydd.
Y prosiect hwn yw'r datblygiad sylweddol cyntaf ar y safle ac y mae'n ganolfan i swyddfeydd yn bennaf ond mae posibiliadau i'w ddefnyddio i ddibenion adwerthu.
Plac Pensaerniaeth
Pensaernïaeth Davies Sutton Pensaernïaeth Davies Sutton
Enillydd y Plac Teilyngdod mewn Pensaernïaeth am Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg.
Roedd y cleient, Esgobaeth Llandaf, yn awyddus i Davies Sutton Architecture ddatblygu coetsiws fel man i encilio ynddo.
Crefft a Dylunio
Mari Thomas Mari Thomas
Enillydd Y Fedal Aur Crefft a Dylunio
Cyfres Haenau

Yr allwedd i'r casgliad hwn yw'r syniad o gyflwyno ffurfiau a siapiau clir a syml.
Celfyddyd Gain
Tim Davies Tim Davies
Enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain
Er nad wyf yn dymuno bod yn gyfarwyddol am fy ngwaith, oherwydd bod pob un sy'n edrych arno yn dod â'u dealltwriaeth a'u dehongliad eu hunain i bob darn, bydd y nodiadau hyn, gobeithio, yn egluro fy nghymhellion a'm cyfeiriadau wrth ei gyflawni.
artist ifanc
Richard Bevan Richard Bevan
Enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Mae fy ngwaith yn ymwneud â'm bywyd ac olion corfforol bywydau fy mherthnasau a'm ffrindiau.


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy