| Arddangoswr: Wendy Lawrence
"Mae fy ngwaith yn cael ei ysbrydoli gan y nodweddion gweadol toreithiog sydd i'w canfod mewn ffurfiannau craig wedi ei herydu ac yn y modd y mae dyn wedi ymyrryd â'r tirwedd.

"Mae'r gwaith cerameg hwn yn delio â materion sy'n ymwneud â'r berthynas rhwng elfennau cyferbyniol - sy'n digwydd yn naturiol oherwydd ymwneud dyn ac sy'n dystiolaeth ohono.
"Mae cynhyrchu'r gwaith yn cyfuno nifer o dechnegau adeiladu â llaw anghonfensiynol. "Byddaf yn gweithio'n reddfol iawn â'r clai, gan geisio dal y strwythur a'r anhrefn. "Mae'r dull o wydro'r gwaith eto'n anghonfensiynol, yn defnyddio deunyddiau tu hwnt o adweithiol a ffrwydrol wedi eu gosod mewn sawl haen a hynny'n drwchus iawn yn aml, gan greu arwynebau cyfoethog o ran ansawdd. "Mae'r broses hon o wydro'n ychwanegu at yr ymdeimlad o ansawdd geolegol ac y mae'n rhoi elfen gyffrous o siawns ac ansicrwydd."
|