| Arddangoswyr: Tina Carr ac Annemarie Schöne
"Yr hyn sydd wrth wraidd ein gwaith ni yw cysondeb, angerdd a chyfrifoldeb personol. " I ni, cyfosodiad rhwng y ffotograffydd ar tybiaethau sydd ynglyn â gweld yn fras ac yn gyson yw ffotograffiaeth.

"Ceisiwn fynd ymhellach na chywirdeb ffotograffig arwynebol i'r fan lle mae ysbryd y llun yn troi yn gipolwg yn ôl, yn rhywbeth myfyrgar, a lle nad yw'n ddogfen fel y cyfryw ond yn dalismon neu'n grair. "Ein rôl ni fel ffotograffwyr yw bod yn dyst i'n pwnc ac i ymwneud ag ef er mwyn dangos pethau sydd angen eu cywiro a hefyd y pethau sy'n rhaid eu gwerthfawrogi.
"Rydym yn trosi'r hyn a welwn yn realiti wedi ei rewi a'n gobaith yw fod y delweddau sy'n tarddu o hynny yn cyfleu ein parch tuag at y gwir yn ogystal â'n gwerthfawrogiad o werth esethetig golau, ffurf a chyfansoddiad. "Ffrwyth gwaith nifer o flynyddoedd yn yr hen gymunedau glo ym mhen uchaf Dyffryn Aman yw'r ffotograffau."
|