| Arddangoswr: Susan Dalladay
"Rwy'n cynhyrchu fy ngherfluniau drwy gasglu darnau tebyg o ddeunydd planhigion sy'n aml wedi dod i ddiwedd eu hoes.

"Bydd y darnau unigol hyn o welltglas, helygen, hadau ayyb. yn cael eu casglu ynghyd i greu ffurf newydd, sy'n dibynnu ei hun, i ryw raddau, ar gyfeiriad at batrymau naturiol.
"Bydd y cerfluniau'n aml yn ymdebygu i'r lliw, y golau a'r ffurf a welir ym myd natur. "Maent yn cynrychioli syniadau am y byd naturiol mewn modd gweledol. "Maent yn ceisio rhoi ffurf gorfforol i syniadau am drefn a chyfansoddiad cymhleth natur a pha mor bwysig yw'r rhannau lleiaf un o ran y modd y mae'r cyfan yn gweithio. "Yn yr un modd, ymateb ydynt i rythmau a synhwyrau'r byd naturiol ac y maent yn ceisio ymgorffori'r ysbryd hwn."
|