| Arddangoswr: Robert Harding
Yn fwy cyfarwydd fel cerflunydd, daeth Robert Harding i ymwneud mwy â chynhyrchu pethau ymarferol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fel y tair bowlen fetel a ddewiswyd ar gyfer Arddangosfa Gelf a Chrefft Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2002.

Mae ei ddiddordeb mewn celfyddyd gain a phethau ymarferol wedi arwain yr arlunydd i ymchwilio i waith arlunwyr modern ac ôl-fodern sydd wedi gweithio yn y naill begwn a'r llall.
Drwy ymchwil o'r fath mae wedi darganfod nifer o arlunwyr gweledol eraill yng Nghymru sy'n rhannu'r un diddordeb. Bydd canlyniadau'r gwaith hwn i'w gweld mewn arddangosfa symudol o'r enw Fine to Functional a drefnir ar gyfer 2003-2004 gan Ganolfan Celfyddydau Llantarnam Grange, Cwmbran.
|