
![]()
|
 |
Arddangoswr: Louise Adlam
Cafodd Dychwelyd i Ynys y Barri ei saethu ar daith yn ôl i fy nhref enedigol yn ystod Gaeaf 1999.

Gwyliwch glip fideo Louise Adlam

Mae ysbrydion yn cyniwair tref glan môr pan fo tymor y twristiaid ar ben, ac mae pob golygfa yn gerdyn post mewn ffilm. Mewn un olygfa, fe saif teulu Asiaidd yn lletchwith o flaen y camera, gan ymgiprys â'r gwynt cryf, a thrwy hynny herio ein syniad traddodiadol o'r Prydeiniwr ar ei wyliau.
|