| Arddangoswr: John Uzzell Edwards
Ers canol yr 80au, pan wnes i ddechrau astudio meini hirion, bum yn gweithio ar gyfres o baentiadau a darluniau sydd â chyswllt pendant. Carreg Llywel oedd y maen hir cyntaf y gwnes i baentiad ohono ac erbyn hyn y mae wedi ei leoli yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Dilynwyd hyn gan gyfres o baentiadau a seiliwyd ar ddelweddau'n deillio o feini hirion ledled Cymru. Yna, yn neuadd fawr Abaty Nedd mi wnes i ddarganfod llawr teils ardderchog o'r 12fed ganrif; hela ac ymwanu oedd y testun.
Roedd fel pe bai delweddau'r ymwanu'n perthyn i gyfres Warrior blaenorol, wedi ei ysbrydoli gan gyfres newydd hollol o weithiau. Mae'n ymddangos eu bod i gyd yn ymwneud â 'phaentio' yn hytrach na 'gwneud lluniau'. Maent yn perthyn i lawysgrifau rwyf wedi eu hastudio yn Iwerddon a Chymru. Maent fel pe baent yn gwau ac yn ymdroelli fel stori o'r Mabinogi, cwlwm Cymraeg neu ganu penillion.
|