
![]()

![]()

![]()
|
 |
Arddangoswr: Geraint Evans
Gall testunau fy mhortreadau dychmygol gynnwys geeks a phobl unig, rhai sy'n hoff o hobïau a phobl sy'n benboethiaid, ond mae rhywbeth o bobun ym mhob darn o waith. Mae pobl yn brwydro yn wyneb helbulon syml, yn cymryd pleser balch mewn difyrrwch sydd ar y cyrion neu'n anelu at efelychu campau delfrydau ymddwyn nad oes dichon eu cyflawni. Yn sail i'r lluniau mae hanesion a phrofiad personol.

Yn aml bydd pobl yn cael eu gwylio'n gwneud rhywbeth: paentio, adeiladu rheilffyrdd model neu gerfluniau amatur neu'n addasu eu ceir. Mae hyn yn adlewyrchu fy ymdrech ddyddiol i. Mae maint cymedrol y paentiadau a'r gwaith brwsh mewn paent acrylig sy'n fwriadol arddullaidd, yn atgyfnerthu'r ddelwedd hon o weithgaredd unig, hynod yr artist.
Portreadau ffuglennol neu straeon byrion ydynt yn eu hanfod. Mae'r paentiadau'n pwysleisio ein huchelgais o ran ein ffordd o fyw a'n greddf naturiol am ryw fath o hunaniaeth tra'n bodloni disgwyliadau cymdeithas drefnus.
|