
![]()

![]()
|
 |
Arddangoswr: Gary Green
Mae fy ffotograffau'n cofnodi'r stad dai sydd wedi ei difrïo cymaint yn Abertawe breuddwyd gohebydd newyddion, gyda lladrata ceir, trais a mân droseddau ar bob llaw. Ond rwyf i wedi penderfynu canolbwyntio ar leoliad trawiadol y stad, ei hunigedd uchel, ar fryncyn gwyntog yn edrych i lawr ar y ddinas.

Mae Townhill yn fan lle mae'n ymddangos fod natur â'r llaw uchaf. Mae'r rhesi unffurf o dai teras yn glynu at ochr y bryn, weithiau ar goll yn y niwloedd tew, smwclyd all rowlio i fyny'n sydyn o'r môr.
Yr un mor sydyn, gall y niwl glirio, gan ddatgelu golygfa anfarwol ar draws Môr Hafren. Y digwyddiad hwn sy'n rhoi i Townhill ei gymeriad arbennig ar nodwedd gyfnewidiol ac enigmatig hon a'm denodd i edrych ar y stad fel testun ffotograffig. Nodwedd dros dro yw pobl yn fy nelweddau i. Yn aml byddant yn cael eu portreadu mewn symudiad aneglur wrth iddynt fynd o gwmpas eu gweithgareddau bob dydd.
|