
![]()

![]()
|
 |
Arddangoswr: Daniel Crawshaw
Dechreuais ar y gwaith o gynhyrchu'r paentiadau o'r caeau yn ystod argyfwng y traed a'r genau. Gan fy mod yn byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad, roedd y ddelwedd o gae gwag yn un real iawn, yr un mor rymus i mi â'r delweddau grotésg o anifeiliaid yn cael eu difa.

Roedd nifer o emosiynau'n gyffredin ledled y wlad; arswyd, dryswch, diamydferthwch. Roedd y gair 'pla' yn dwyn i gof drychineb hanesyddol tra roedd newyddion am amhendantrwydd gwleidyddol sylfaenol yn treiddio drwy'r cyfryngau. Roedd y synnwyr o glawstroffobia yn nerthol iawn. Daeth y motiff o'r cae niwlog yn rhwydd felly, yr amgylchiadau'n awgrymu na fyddai unrhyw newid yn syth, anghytundeb ffurfiol; y ddelwedd yn wag, yr awyrgylch yn llawn.
|