
![]()

![]()
|
 |
Arddangoswr: Daniel Backhouse
"I mi fe ddatblygodd paentio'n un broses hirfaith o gamgymeriadau ac ymdrechion niferus a ysbrydolwyd gan y tir a'r môr o gwmpas a'r profiad o fod y tu allan yn ei ganol i gyd. Fy ngobaith yn y pen draw yw fod yr holl ymdrechion yn arwain at gyfanrwydd sy'n cael ei fowldio'n ddelwedd a honno, i mi, yn cynnwys elfen o'r tu allan ynddi."

Mae Daniel Backhouse yn rheoli ei gyfrwng o olew, acrylig a siarcol yn reddfol, gan roi i'r gwyliwr olygfa aflywodraethus o ddwr, awyr a daear yn cael eu rhyddhau, a'r rheini'n gwrthdaro ac yn cael eu caboli'n siâp telynegol gan y broses ddeublyg o greu a dileu haenau crawennog o baent.
Yn aml bydd hyn yn esgor ar ddau neu fwy o arwynebau sy'n siglo, sy'n ymdoddi'n len befriog ryfeddol o ysgafn, gan godi ysbryd rhywun uwchlaw cyfyngiadau'r paent.
|