| Arddangoswr: Christine Mills
Cefais fy ngeni ym Maldwyn, lle ganwyd fy rhieni, fy neiniau a theidiau a fy hen neiniau a hen deidiau hefyd.

Fe'm magwyd yn Llangadfan ond erbyn hyn rwy'n byw ar ffarm fynydd ger Y Foel.
Bellach rwy'n fam i blant bach ac mae fy mywyd bob dydd yn golygu ymwneud â'r ffarm, magu'r plant a darlithio rhan amser yn adran gelf Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau. O ganlyniad, mae fy ngwaith celf yn ymdrin â materion cyfoes sy'n ymwneud â chefn gwlad Cymru, sydd o bwys mawr i mi.
|