| Arddangoswr: Christopher Nurse
Mae fy mhaentiadau'n cael eu hysbrydoli gan sioeau cynnyrch pentrefi lleol sy'n cynnwys cystadlaethau am y belen wair, bag o dail, pobiad sgons gorau ayyb...

Ond hyd yn hyn, bum â mwy o ddiddordeb yng nghystadlaethau'r plant: y cerflun llysiau gorau, y fisgeden a gafodd ei haddurno orau, yr ardd orau ar blât ac yn y blaen.
Mae digrifwch swynol y cystadlaethau hyn a'r creadigaethau hynod sy'n deillio o hynny yn haeddu cael eu dathlu. Mae fy mhaentiadau'n cyfateb i bortreadau'r ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg o foch a gwartheg a enillodd wobrau ond bod y rhain am fisgedi a llysiau. Yr hyn sy'n fy nenu i at y pwnc yw'r cyfuniad a'r gwrthgyferbyniad amlwg rhwng y dibwys, y llysieuyn, realiti a'r modd y mae'n cael ei drawsnewid yn ffantasi cerfluniol.
|