
![]()

![]()
|
 |
Arddangoswr: Brendan Stuart Burns
"Rwy'n credu'n gryf iawn mai paentio yw'r peth mwyaf cyntefig a chreiddiol y gallaf ei wneud o ran ymateb i'r byd o'm cwmpas. Yr hyn sy'n gyffredin i fy holl waith creadigol yw'r 'ysbrydol' yn yr hyn rwy'n ei wneud fel arlunydd. Wedi meddwl am y peth, does dim gwahaniaeth a yw'r gwaith yn ymwneud â'r trefol - Efrog Newydd; neu'r gwledig - Sir Benfro. Dim ond un o nifer o resymau pam fy mod yn paentio yw'r testunau hyn. Rhaid cael ymateb arall i'r gweithiau hyn ar wahân i adnabyddiaeth syml o amser a lle. Rhaid iddynt fod yn fwy cyntefig na hynny. Rhaid iddynt eich 'cyffwrdd'.

Fy uchelgais yw paentio rhywbeth sy'n siarad â phawb, p'r'un ai ydynt yn adnabod Sir Benfro ai peidio. Yr hyn rwy'n awyddus i dreiddio i mewn iddo yw ein cyfansoddiad genetig, ein profiad fel bodau dynol, bod yn effro i'r byd. Mae'r gweithiau ynglyn â bod yn fodau dynol a'r weithred o fod yn greadigol. Maent ynglyn â myfyrio. Rhaid eu synhwyro yn ogystal â'u profi. Maent yn baentiadau corfforol. Mae'r ymateb a'r diben 'ysbrydol' yn ganolog iddynt."
|