| Arddangoswr: Aled Rhys Hughes
"Detholwyd y pedwar llun a arddangosir yma allan o gasgliad o 18 a grewyd ar yr 21 Rhagfyr 2001.

"Cipiwyd y lluniau oddi ar sgrîn cyfrifiadur.
"Oes o ddeg eiliad yr un oedd gan y lluniau yn wreiddiol, cyn i broses awtomatig adnewyddu'r foment amhendant. "Y syndod i mi yw bod y foment yma yn gallu bodoli mewn dau le ar yr un pryd yn Abertawe ac ar Ynys Sgitheanach Wrth drosglwyddo'r llun i bapur, gwireddwyd a thrawsffurfiwyd y foment unwaith yn rhagor."
|