|
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:
Mae'r 'hydref' yn yr awdl yn symbol o ddioddefaint a dadfeiliad y byd ar y pryd.
Condemniwyd y mynegiant astrus a thywyll gan y beirniaid, er nad yw mor astrus â
hynny; ond yr oedd yn awdl anghelfydd a chymysglyd ar brydiau, ac nid rhyfedd i'r
bardd ei hailwampio yn ddiweddarach. Ni fynnai T. H. Parry-Williams gadeirio
Rolant na neb arall.
Y Goron
Testun. Pryddest: 'Breuddwyd Macsen' neu 'Periannau'
Enillydd: J.M. Edwards ('Peiriannau')
Beirniaid: T. Eirug Davies, Edgar Thomas, Saunders Lewis Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Sylweddolodd J. M. Edwards fod dyn bellach yn defnyddio
technoleg newydd yr oes i greu dinistr ar raddfa eang, a chyfeirir at yr awyrennau bomio ynddi. Gallai dyn un
ai reoli'r peiriannau neu adael i'r peiriannau ei reoli ef. Y mae rhywfaint o ddylanwad
Gwenallt ar y gerdd, ac mae'n gerdd yn yr un cywair â rhai o gerddi beirdd fel W. H.
Auden, Stephen Spender, C. Day Lewis a Louis MacNeice. Defnyddiodd y bardd y
gynghanedd i gyfleu rhuthr a grym y peiriannau yn effeithiol. Dyma un o gerddi
mwyaf poblogaidd cystadleuaeth y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y Fedal Ryddiaith Testun: Nofel fer
Enillydd: Gwilym R. Jones ( Y Purdan )
Tlws y Ddrama
Drama hir
Enillydd: D. W. Morgan
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|