|
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:
Awdl arall â Chymru yn thema iddi.
Mae'r gerdd yn trafod argyfwng ysbrydol Cymru mewn cyfnod o anwareidd-dra ac yn mynegi
pryder am ddyfodol y wlad o ganol y Rhyfel. Cyfeirir at y Blitz ynddi. Yn yr awdl
mae un o'r delwau a geir yn Nhyddewi yn holi pererinion, ac yn gofyn a ydyw'r Cymry
yn parchu eu hiaith o hyd ac yn gwerthfawrogi harddwch y wlad. Mae un o'r pererinion
yn ateb drwy ddweud fod cyfalafiaeth a diwydiant yn hagru'r wlad, a chyfeirir at ddiweithdra'r
tridegau ynddi hefyd. Awdl anwastad yw'r awdl er miniogrwydd ei chyfoesedd.
Y Goron
Testun: Agored
Enillydd: Neb yn deilwng
Beirniaid: Cynan, Thomas Parry, W. J. Gruffydd
Cerddi eraill: Y gerdd orau yn y gystadleuaeth oedd pryddest gan J. M. Edwards, Prifardd coronog 1937, a Phrifardd y Goron yn yr Eisteddfod ddilynol. Y Fedal Ryddiaith Testun: Ni chafwyd cystadleuaeth Medal Ryddiaith fel y cyfryw. Cynigiwyd y Fedal Lenyddiaeth am y gwaith llenyddol gorau.
Enillydd: T. Hughes Jones (stori fer-hir: Sgweier Hafila )
Tlws y Ddrama
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|