|
Dydd Iau 21 Mehefin 2007 bu i dîm y bws weithio mewn partneriaeth â Chlwb Pel-Droed Y Drenewydd drwy gynnal sesiwn sgiliau pêl-droed gyda disgyblion Ysgol Dafydd Llwyd. Yr oedd Elin Wyn Rowlands, aelod o dîm Bws BBC Cymru, yn bresennol er mwyn cael blas o'r gweithgareddau. Bwrwch olwg ar y lluniau a gwrandewch ar y clipiau sain isod.
Mae cael plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yn bwysig yn ôl Nia Foulkes.
Mae Tom Foulkes yn chwarae pêl droed i glwb Y Drenewydd. Yma mae'n olrhain gweithgareddau'r dydd.
Beth oedd barn disgyblion Ysgol Dafydd Llwyd am y sesiwn sgiliau? Cliciwch yma i glywed eu sylwadau.
 |