Lluniau o Ŵyl Gregynog 2007
Cynhaliwyd digwyddiadau amrywiol yn ystod yr ŵyl gan gynnwys perfformiadau gan artistiad rhyngwladol ag enwau mawrion fel Andrew Kennedy, The King's Sisters a Alison Balsom.
Diwrnod Agored - Mehefin 16, 2007
Cynhaliwyd diwrnod agored i bobl leol ac ymwelwyr ar ddydd Sadwrn, Mehefin 16. Am 10.00 y bore cafwyd sesiwn hanes ar lafar, cyfle i bobl rannu atgofion ynglyn â Gwyliau Gregynog y gorffennol a'r chwiroydd Davies, Gwendoline a Margaret - wyresau y diwydiannwr David Davies, Llandinam.
Gyda chymorth Walford Davies a Dora Herbert Jones, dyfeisodd y ddwy chwaer Ŵyl Gerddoriaeth a Barddoniaeth Gregynog rhwng 1933 a 1938 gan ddenu nifer o gerddorion blaenllaw eu dydd i'w cartref, gan gynnwys Ralph Vaughan Williams, Gustav Holst a Adrian Boult.
Diwrnod Edgar
Roedd diwrnod olaf yr ŵyl, sef dydd Sul, Mehefin 24 wedi ei neilltuo i ddathlu 150 mlynedd ers geni'r cerddor Edward Elgar. Roedd yn ddiwrnod i ddathlu ei waith â'i gysylltiad â Gregynog - bu'n ymweld â'r chwiorydd Davies ym 1924.
Gwefan yr ŵyl - cliciwch yma.