  Sut
i wneud drymiau swnllyd
Mae
angen:
- Cwpanau plastig gwag
- Gwellt yfed
- Papur lliwgar
- Blychau gwag
- Potiau margarin gwag
- Glud diogel
- Siswrn diogelwch
- Paent
- Glitar
- Tinsel
Cam-wrth-gam:
1.
Defnyddiwch dun crwn i wneud un o'r drymiau gan ei addurno efo paent,
glitar a sêr o'r dalennau printiadwy.
2.
Defnyddio'r potiau margarin gwag i wneud rhagor o ddrymiau a'u haddurno
gyda phaent, glitar a phapur lliwgar.
3. Defnyddio darnau o bren neu bensiliau i wneud ffyn i guro'r drymiau.
Rhowch dinsel ar y ddau ben.
4. Er mwyn gwneud symbal defnyddiwch 'blue tac' i roi'r plat yn sownd
wrth frigyn sydd wedi ei beintio.
5. Gosodwch hwn a'r drwm efo'i gilydd ac yr ydych yn barod i ddrymio.

|