|

 |
  Taflenni
argraffu ar gyfer y cymeriadau, y propiau, a'r llwyfan.
Rhowch
sioe ymlaen ym myd lliwgar Andy Pandy.
Mae angen:
- Un bocs esgidiau
- Pâr o siswrn diogelwch (gofynnwch bob amser i oedolyn eich helpu)
- Glud
- Pensiliau lliw neu baent
- Llawer o ddychymyg!
Cam-wrth-gam:
1. Yn
gyntaf, argraffwch y dalennau cefndir (printadwy 1 & 2) a'u lliwio gyda'ch
pensiliau lliw neu baent.
2. Yn
awr, gosodwch y blwch esgidiau ar un o'i ochrau hirion a gludo'r ddalen
gyntaf o fewn y blwch a phlygu'r ail ddalen dros y top. Torrwch dwll hirsgwar
yn nhop y blwch esgidiau - yma y byddwch yn symud y cymeriadau yn eich theatr.
Tameidiau ychwanegol o olygfeydd i'w gludo wrth y blwch ydy dalennau printadwy
3 a 4.
3. Argraffwch
y dalennau o luniau cymeriadau (dalennau printadwy 5, 6, 7 ac 8) a'u gludo
wrth ddarn o gerdyn (gallwch ddefnyddio caead y blwch esgidiau!). Gofynnwch
i rywun mewn oed eich helpu i dorri o amgylch y cymeriadau ac wedyn eu lliwio
eich hunan.
4. Argraffwch
y props (printadwy 9) a gofyn i rywun mewn oed eich helpu i dorri o'u hamgylch
ac wedyn eu lliwio.
5. Erbyn
hyn mae gennych eich theatr Andy Pandy eich hunain. Ewch ati i greu straeon
a threfnu andros o berfformiad! Gallwch hyd yn oed greu cymeriadau newydd
a'u cynnwys hwy.
|
 |
TM/BBC/Ben
Prods.LLC © BBCWW/Ben Prods.LLC.2001
|