1. Cymerwch 6 rholyn cegin a thorrwch ar draws bob pen ar ongl.
2. Lliwiwch 3 rholyn o'r papur cegin mewn lliwiau o'ch dewis chi.
3. Ar ôl i'r paent sychu, gludiwch nhw gyda'i gilydd mewn llinell.
4. Ar un pen torrwch allan y geg, ac yna ychwanegu'r tafod a llygaid y neidr! Gofynnwch i oedolyn i'ch helpu i dorri allan.
5. Bydd rhaid i chi ail-wneud camau 2 i 4 ar gyfer y 3 rholyn cegin arall, a'u rhoi ar un ochr.
6. Cymerwch y bocs cardfwrdd a thorrwch allan siapau hanner cylch sy'n ffitio eich neidr (gweler y llun). Gofynnwch i oedolyn i'ch helpu i dorri allan y siapau a rhoi'r nadroedd i mewn i'r bocs.