
 |
 |
Y
byd yn gwylio
Ond faint o bethau Cymru sydd i'w gweld dros Glawdd Offa
Dydd Mercher, Gorffennaf 23
|
Dylan Wyn yn trafod rhaglenni teledu
Bob tro yr af i
ar wyliau tramor, bydda i wastad yn troi'r teledu ymlaen yn y gwesty
i gael cip ar arferion gwylio'r trigolion lleol.
Er bod gan bob gwlad ei naws unigryw ei hun, rhyw gawl eildwym o raglenni
cyfarwydd mewn ieithoedd eraill sydd ar gael yn anad dim.
Beth welais i ar y bocs bach mewn tafarn fach brysur yng nghanol dinas
Prâg unwaith oedd fersiwn Tsieceg o Who Wants to be a Millionaire,
ac roedd fersiwn Sbaenaidd o'r Big Brother felltith
ar ei anterth tra'r oeddwn i'n mwynhau wythnos yn haul Lanzarote y
llynedd.
Ar ôl diwrnod hir yng nghanol bwrlwm trymaidd dinas Milano yn ddiweddar,
dyma ymlacio yn system dymheru bendithiol y gwesty a chael cip ar
Ioan Gruffudd yn parablu fel melin bupur Eidaleg yn un o anturiaethau
diweddaraf Hornblower.
Lle mae S4C?
A dyma feddwl wedyn - diawch - braf o beth fyddai gweld un o raglenni
cyfarwydd Cymraeg S4C ar deledu tramor! Nid yw'n syniad mor ddieithr
â hynny, chwaith.
Mae cartwnau'r sianel wedi ennill bri rhyngwladol, gyda Sali Mali
yn diddanu gwylwyr ifanc sianel ABC Awstralia heb sôn am yr holl gyfresi
animeiddio anghymreig ar y naw fel Shakespeare/Chwedlau Caergaint/Chaucer
a'u tebyg.
Mae rhaglenni dogfen y sianel hefyd wedi'u darlledu ym mhedwar ban,
gyda hanes Y Celtiaid yn cael derbyniad gwresog ar ôl
eu trosleisio i'r Sbaeneg a Phortiwgaleg ar gyfer The History Channel
Latin America i 12 miliwn o gartrefi posib, a chyd-gynhyrchiad
The Mapmakers yn croniclo hanes cartograffeg ar fin
cael ei ddarlledu ar sianel ZDF yr Almaen.
Diddorol iawn, dw i'n siwr. Ond a fydd yr Almaenwr fawr callach mai
cynhyrchiad o Gymru yw hwn?
Beth am y ddrama?
Mae pawb yn gwybod y cafodd pobl yr Iseldiroedd gip ar gastiau trigolion
Cwmderi am sbel yng nghanol y 1990au, er i'r gyfres bara cyn hired
â sbliff-am-ddim yn un o gaffis unigryw Amsterdam.
Un
o lwyddiannau mawr y cyfrwng yw cyfres dditectif dywyll Yr Heliwr/A
Mind to Kill, gyda fersiwn yr iaith fain o anturiaethau'r
Prif Arolygydd Noel Bain wedi'i darlledu i weddill Prydain ar Channel
5 a Sky 1; ynghyd ag mewn 60 o wledydd ledled y byd, yn ôl y broliant
ar wefan cynhyrchwyr y gyfres, 'Fiction Factory'.
Er hynny, cyfres dditectif Scottish TV sydd fwyaf adnabyddus ymhlith
gwylwyr gwledydd Prydain, sef Taggart.
Wfftio Cymru
Mae rhwydwaith y BBC ac ITV1 yn ganolog yn amlwg wedi hen wfftio'r
syniad o roi lle amlwg i ddramâu o Gymru yn ystod yr oriau brig.
Tra bo cyfresi o stabal BBC yr Alban yn cael croeso mawr ar y rhwydwaith
- o Hamish Macbeth i Tinseltown a'r lol
Monarch of the Glen - mae cyfresi BBC Cymru mor amlwg
ag arfau dinistriol Irac.
Bedair cyfres yn ddiweddarach, ac mae gwylwyr y tu draw i Glawdd Offa
yn dal i golli'r cyfle i ddilyn hynt a helynt trigolion Bryncoed yn
Belonging - cyfres heb ei hail, gyda chymeriadau a
storïau credadwy yn cyfuno'r llon a'r lleddf, ac sy'n profi bod adran
ddrama Saesneg BBC Cymru yn gallu cael hwyl arni o roi'r gynulleidfa
gartref uwchlaw pen bandits y Bîb yn Llundain.
Roedd hi'n bleser treulio hanner awr bob nos Fercher yn chwerthin
yn iach gyda chriw Bryncoed yn lle dioddef o'r felan deirgwaith yr
wythnos yng nghanol diflastod diddiwedd Albert Square.
Yn y cyfamser, gallwn ni Gymry lwcus edrych ymlaen yn eiddgar am y
bumed gyfres yng ngwanwyn 2004.
Tybed a fyddai pethau wedi bod yn wahanol petai Belonging
wedi'i gosod yng nghyffiniau Caeredin yn hytrach nag yng Nghwm Rhymni…?
Comedi
Cafodd y comedïwr enwog o Bort Talbot, Rob Brydon, dalcen caled wrth
geisio gwerthu'r syniad o gyfres gomedi i gynhyrchwyr di-glem, a fynnodd
y byddai'n fwy o lwyddiant petai'n newid y prif gymeriad yn Albanwr.
Diolch i'r drefn, felly, iddo anwybyddu'r cyngor sarhaus hwnnw, gan
fynd ati i ennill bri a gwobrau BAFTA fel Keith, y gyrrwr tacsi o
Ciardiff, sy'n adrodd hanes ei fywyd doniol o drist ar ffurf monologau
Marion & Geoff.
O ran rhaglenni teledu Cymru, mae'n amlwg felly nad 'teg edrych tua
Llundain' yw hi.
Mae angen i BBC Cymru, HTV ac S4C gydweithio fwyfwy (neu sefydlu partneriaeth,
gair mawr yr oes!) i werthu eu rhaglenni i wledydd tramor, a rhoi
hys-bys go iawn i Gymru fel gwlad unigryw sy'n gallu cynhyrchu dramâu
o safon yn y ddwy iaith.
Gyda rhaglenni wedi'u trosleisio yn gyffredin iawn ar sianeli teledu
Ewrop, ni welaf unrhyw reswm pam na all gwylwyr o Roma i Rennes fwynhau
clasuron fel Tair Chwaer a Belonging.
A dyna ddiwedd fy lith ar fy mocs sebon.
Dw i am roi'r cliciwr o'r neilltu nawr gan obeithio y gallaf ailafael
pan fydd pethau amgenach na Sioe a Steddfod i'w gweld ar S4C.
Hwyl! !
Bydd beirniad teledu newydd o flaen y teli cyn bo hir. Dychwelwch
i'r wefan hon i weld . . .
|
 |

|