
 |
 |
Q
yn deall dim am daclau electronig
Teyrnged
i'r Cymro achubodd fywyd 007 gyda'i daclau technolegol
Dydd Mawrth, Rhagfyr 5, 2000 |
Doedd
y dyn a fu’n anfon James Bond i bedwar ban byd gyda phob math o ddyfeisiadau
techneolegol gwyrthiol ddim yn gallu gweithio ei fideo ei hun, gartref!
Datgelwyd hyn am yr actor o Gymro, Desmond Llewelyn, gan ei fab mewn
cyfarfod teyrnged yn Theatr Chapter Caerdydd fel rhan o weithgareddau
Gwyl Ffilm Ryngwladol Cymru.
Llewelyn a chwaraeai ran un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y ffilmiau
007 - y dyfeisiwr Q a fyddai’n cyflwyno pob math o offer technolegol
gywrain a gwyrthiol i’r ysbiwr.
Ond yn ôl Justin Llewelyn yr oedd ei dad mewn gwirionedd yn dechnolegol
anllythrennog. Ni allai dygymod a rhaglennu ei fideo hyd yn oed.
Digwyddiad brawychus
Cyfeiriodd at un digwyddiad brawychus gyda’i dad yn rhoi dwy wifren
noeth iddo eu cyffwrdd â’i gilydd i brofi goleuadau coeden Nadolig!
"Er mor glyfar oedd o fel Q yn y ffilms ni allai fy nhad weitho unrhyw
gajets," meddai ei fab.
Fel rhan o’r deyrnged iddo dangoswyd ffilm ddogfen a wnaed gan HTV
- Pay Attention 007 - yn portreadu gyrfa ryfeddol Desmod Llewelyn
fel Q - rhan a deilwriodd yn arbennig ar ei gyfer ei hun.
Y bwriad gwreiddiol oedd i Q siarad ag acen Gymreig ond darbwyllodd
Llewelyn y cyfarwyddwr cyntaf iddo weithio tano, Terence Young, na
fyddai hynny yn argyhoeddi. Felly y crewyd y gwas sifil tra Seisnig
a'i gefndir ysgol fonedd.
Arhosodd Llewelyn ei hun, fodd bynnag, yn Gymro tanbaid gydol ei oes
yn ôl ei fab.
Mwy o ffilmiau na neb
Ymddangosodd mewn mwy o ffilmiau Bond nag unrhyw actor arall. "Fe
fuo yna bedwar Bond a thri M ond dim ond un Q," meddai Justin Llewelyn.
O’r
pedwar Bond i’w dad ymddangos â hwy dywedodd mai Pierce Brosnan oedd
ei hoff Bond ac yn y ddogfen amdano dywedodd Desmond Llewelyn ei hun
mai’r elfen Geltaidd a wnaeth y ddau yn gymaint ffrindiau.
"Y mae gan Pierce Brosnan rywbeth nad oedd gan yr un o’r Bonds eraill,"
meddai.
Yr oedd yn fwy beirniadol o George Lazenby. "Doedd George ddim yn
actor," meddai!
Er iddo ymddangos mewn 17 o’r 18 o ffilmiau dim ond cwta hanner awr
fu Llewelyn ar y sgrin rhyngddyn nhw i gyd - ond y mae’n deyrnged
iddo fel actor iddo wneud y rhan yn un na ellir ei throsglwyddo i
neb arall.
Hynod o wylaidd
Er cymaint ei lwyddiant - yn cael ei adnabod ar hyd a lled y byd -
fe’i disgrifwyd fel dyn hynod o wylaidd a pharod iawn i’w ddisbrisio
ei hun.
Cyfeiriwyd ato yn ymweld yn rhad ac am ddim â chanolfannau cymdeithasol
a chlybiau sgowts i siarad am ei waith.
"Pwysleisiai bob amser na ddylai unrhyw actor anghofio mai dim ond
gwaith yw actio ac na ddylai actor anghofio mai y bobl sy’n eich rhoi
lle’r ydych."
Dwylo mawr
Ond dywedodd Justin Llewelyn i’w fam ddisgrifio ei dad fel yr actor
llwyfan gwaethaf yn y byd.
Hynny yn bennaf oherwydd bod ganddo ddwylo mor fawr â hynny’n ei wneud
"yn hynod o anghyfforddus ar lwyfan lle na wyddai beth i’w wneud a’i
ddwylo!"
"Yn wir, yr oedd ei ddwylo mor fawr fel y defnyddiwyd dwylo rhywun
arall ar gyfer siots agos mewn rhai golygfeydd," meddai.
Ganwyd Desmond Llewelyn yng Nghasnewydd ar Fedi 12, 1914. Yn ystod
yr ail Ryfel Byd treuliodd bum mlynedd yn garcharor rhyfel.
Cafodd ei ladd mewn damwain car flwyddyn yn ôl.
Ynglyn â’i yrfa fel Q dywedodd: "Mi wnai ddal ati i weithio tra bydd
Eon (y cwmni ffilmiau) fy eisiau a thra na bydd yr Hollalluog fy eisiau."
Hefyd o'r Wyl ffilmiau:
Mindblowing
Oed
yr Addewid
|
 |

|