
 |
 |
Llanelli
-
Y Dyff Geid
Darllenwch
hwn
cyn mentro i Dre'r Sosban
|
Wedi
danto ar gerdd dant? Dyma "Llanelli - y dyff geid" gan Kathryn
Rowlands
1. Traeth gorau? Ar wahan i Barc Arfordirol y Mileniwm, o gwmpas
Maes yr Eisteddfod, mae na’r hen ffefryn - Cefn Sidan, Penbre - milltiroedd
o dywod glân ger parc gwledig - ewch yn borcyn, os mynnwch chi - ond
dyw e’ ddim yn rhywbeth swyddogol.
Does dim rhaid ofni rhoi eich troed mewn rhywbeth drwg - mae na "waharddiad"
ar gwn ar y traeth rhwng mis Mai a Medi.
Ers talwm roedd ffatri "ammunitions" gerllaw - nawr mae na
gylchffordd rasio moduron yno sy’n denu raswyr ceir byd-enwog.
2. Papur newydd yr ardal: Llanelli Star - newyddion
y dref, a’r pentrefi cyfagos. Digon o hanesion pwy sy’ wedi bod yn
gyrru’n rhy gloi lawr Heol Sandy!
3. Parc gorau: Parc Howard yn cynnwys plasdy hardd sy’n arddangos
casgliad o grochenwaith byd-enwog Llanelli, a’r hen gerrig gorsedd.
Lle prydferth, 20 munud o gerdded o ganol y dre. Digon o le i orwedd
yn yr haul (neu chwarae bowls a phytio), os ydych am osgoi eich cyd-babellwyr
neu’ch gorseddwr lleol. 01554 772029
4. Ganwyd: Dorothy Squires, cyn-wraig Roger Moore, ym Mhontyberem,
saith milltir o Lanelli.
5. Llecyn cudd gorau: rhan o bentref Ffwrnais (Furnace)
hanner milltir tu allan i’r dre. Mae olion ffwrnais - a gyflwynwyd
i’r ardal gan y diwydiannwr Alexander Raby - lle’r oedd peli canon
ar gyfer y rhyfeloedd yn erbyn Napoleon yn cael eu gwneud.
Tyfodd y pentref o gwmpas y ffwrneisiau a chronfa ddwr Trebeddod a
adeiladwyd i liniaru’r prinder dwr yn y dref yn y 1850’au. Mae’r gronfa
erbyn hyn yn safle picnic hyfryd.
6. Sglods gorau'r dre: y Savoy, Stryd Cowell, canol y dre.
Mae’r "rissoles" yn ffein hefyd.
7. Hyncs o’r ardal: Scott Quinnell, Huw Edwards ac Aled Richards
(drymiwr Catatonia).
Hyncs i Mam: Derek Quinnell, Barry John a hanner tîm Cymru
yn y 70’au!
8. Cwrw gorau’r ardal: cwrw "Double Dragon"- wedi ei
fragu yn Felinfoel, pentref tu fas i’r dre. Byd-enwog oherwydd Cwrw
Felinfoel, yn 1936, oedd y cyntaf yn Ewrop (ail yn y byd) i gael ei
werthu mewn caniau.
9. Lle glwypa’r ardal! Canolfan Adar y Gwlyptir - dros 200 erw
o ddyfrffyrdd wedi eu tirlunio ar gyfer adar gwyllt - sy’n cynnwys
elyrch, hwyiad, gwyddau - ac hyd yn oed fflamingos - oddi ar yr A484
- un milltir i’r dwyrain o Lanelli. Yn agored bob dydd o 9.30 tan
5.00 - 01554 741087
10. Llefydd gwlyb eraill? Ma `na ddigon o dafarnau. Ymysg y
rhai trendi, bywiog, yng nghanol y dre mae Barnum’s a Tom Peppers.
11. Awyrgylch go iawn? Marchnad Llanelli - popeth dan do, os
nad dan haul - cocos, bara lawr, tsieina, teganau, teisennau, carpedi!
12. Mwy o Siopa? Canolfan newydd yn cynnig digon o ddewis dan
byramid gwydr. Nid y Louvre ond lot o hwyl!
Cyn iddynt adeiladu hwn, roedd Llanelli wedi mynd yn dre siopau sgidiau
a dim byd arall, bron! Ynghanol y siopau yn Stryd y Parc Uchaf mae
stiwdio Agenda sy’n cynhyrchu "Heno."
13. Hen adeiladau diddorol yng nghanol y dre: eglwys y plwyf;
y llyfrgell a Thy Llanelly (i’w weld ar ei orau, edrychwch at yr hen
blasdy hwn o fynwent yr eglwys) - y tri o fewn llathenni i’w gilydd.
14. Castell gorau’r ardal: Castell Cydweli, wrth gwrs! Siwrne
fer heibio Pen-bre.
15. Bellach i ffwrdd? Digon i’w weld…Y gerddi botaneg yn Llanarthne
- cestyll a thwr Paxton - Abertawe - Penrhyn Gwyr a’r Mwmbwls - Caerfyrddin
(diwrnod marchnad - dydd Mercher) - Llansteffan gyda'i draeth a chastell.
MWYNHWECH!
|
 |

|