
 |
 |
Sut
i
gyrraedd
maes
Steddfod Llanelli
A
manylion am nawdd i ddysgwyr gan SWALEC
Dydd Mawrth, Gorffennaf 18, 2000
|
Gyda'r
Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli yn prysur agosau y mae manylion
wedi eu cyhoeddi ynglyn â'r ffyrdd gorau i gyrraedd yno.
A'r neges gan drefnwyr yr Wyl sydd yn dechrau ar Awst 5 yw - "Mae
cyrraedd yn hawdd."
Mae manylion wedi eu cyhoeddi hefyd am nawdd o £25,000 i'r Eisteddfod
gan Gwmni SWALEC.
Er mwyn sicrhau bod eich taith i'r Eisteddfod yn un hwylus di-ffws,
dilynwch y canllawiau canlynol.
Mewn Car
Os ydych yn dod o Ogledd a Gorllewin Cymru dewch oddi ar yr
M4 ar Gyffordd 48 a dilyn yr arwyddion ar yr A4138 o Hendy i Faes
Parcio rhad ac am ddim Machynys gan osgoi canol y dref.
Bydd bysiau wennol arbennig yno i'ch cludo i faes yr Eisteddfod.
Os ydych chi'n dod o Ddwyrain Cymru dewch oddi ar yr M4 ar
Gyffordd 47, Penllergaer, gan deithio drwy Dre-gwyr a chyfarfod â'r
llif traffig o'r cyfreiriad arall ar gylchfan Trostre. Yna dilynwch
yr arwyddion i Faes Parcio Machynys.
Dyma’r ffordd gyflymaf i gyrraedd y maes a gallwch barcio'ch car yn
rhad ac am ddim drwy'r dydd.
Ar y trên
Bydd bysiau yn cyfarfod holl drenau Wales and West sy'n rhedeg rhwng
Caerfyrddin a Llanelli ac Abertawe a Llanelli er mwyn cludo pobl yn
syth i'r maes.
Ar y bws
Bydd bysiau ar gael i gludo teithwyr sy'n cyrraedd Gorsaf Fysiau Llanelli
ar yr amrywiol wasanaethau bysus i faes yr Eisteddfod yn unionsyth.
Ar feic
Defnyddiwch y llwybrau beicio arbennig sy'n rhedeg drwy Barc Arfordirol
y Mileniwm. Bydd lle arbennig i adael y beiciau wrth y Brif Fynedfa.
Nawdd gan SWALEC
Cyhoeddwyd
yr wythnos diwethaf y bydd Swalec, prif gwmni ynni Cymru yn noddi
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli a'r Cylch 2000.
Arwyddwyd y cytundeb gwerth £25,000 gan Elfed Roberts, Cyfarwyddwr
yr Eisteddfod ac Ewan McConnell, Pennaeth Marchnata Swalec (yn y llun)
mewn cyfarfod yn Swyddfeydd yr Eisteddfod yn Llanisien, Caerdydd.
Mae'r nawdd i Bafiliwn y Dysgwyr ar y maes, Clecs Elli.
"Nod pafiliwn y dysgwyr yw rhoi llwyfan i lwyddiant a chreu awyrgylch
ddeniadol fydd yn apelio at bawb, yn arbennig dysgwyr a phobl sydd
wedi dysgu siarad Cymraeg," meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.
Meddai Ewan McConnell o Swalec:
"Mae gennym fel cwmni wreiddiau cadarn o fewn Cymru ac rydym
yn chwilio'n barhaus am gyfleoedd i gefnogi cymunedau yng Nghymru
ac mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn esiampl o'n gwaith yn y maes hwn."
Ac meddai Elfed Roberts:
"Mae'r cytundeb nawdd hwn rhyngddom ni a Swalec yn sicrhau y gallwn
ddatblygu ymhellach cyfleoedd i ddysgwyr. Bydd Clecs Elli
yn ganolbwynt i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg fel y'i gilydd yn ystod
wythnos yr Eisteddfod gydag ystod o weithgareddau ar gyfer y teulu
i gyd."
|
 |

|