
 |
 |
Yn
fwy
nag erioed
Edrych
ymlaen
at Steddfod y Sosban
Dydd Sul, Mehefin 23, 2000
|
Y
Fwyaf a'r orau Eto . . .
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a'r Cylch yn Eisteddfod i'w
chofio - o hynny am lond trol o resymau meddai'r trefnwyr..
Bydd y'n cael ei chynnal ar Barc Arfordirol y Mileniwm,- safle a baratowyd
yn arbennig ar gyfer cynnal digwyddiadau awyr agored fel yr Eisteddfod.
Perfformir dau waith cerddorol a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer
yr Wyl,- un gan Karl Jenkins, cyfansoddwr Adiemus, a'r
llall gan y Prifardd Iwan Llwyd a'r cyfansoddwr Pwyll ap
Sion.
Rhoddir y Gadair er cof am Gwyndaf, cyn-gofiadur a chyn-Archdderwydd
yr Orsedd a fu'n weinidog yn ardal Llanelli.
Mae Côr yr Eisteddfod eleni, sy'n cynnwys 435 o leisiau, yn un o'r
rhai mwyaf yn hanes yr Wyl.
Bydd Bryn Terfel, Jason Howard a Dafydd Iwan ymhlith yr artistiaid
fydd yn perfformio yn y cyngherddau gyda'r nos.
Mae gan Aled Siôn, Trefnydd yr Eisteddfod, un ffaith arall i'ch perswadio
chi: "Hon fydd Eisteddfod gyntaf y ganrif, heb son am y Mileniwm!"
Oeddech
chi’n gwybod….
Bu'r Eisteddfod yn Llanelli bedair gwaith o’r blaen - 1895,
1903, 1930 ac 1962.
Mae angen 35 acer o dir ar gyfer Maes yr Eisteddfod ac mae
angen mwy bob blwyddyn. Mae angen mwy fyth o dir ar gyfer y maes parcio.
Darlledir mwy o oriau ar deledu o’r Eisteddfod Genedlaethol
na’r un gwyl ddiwylliannol arall ym Mhrydain. Ceir o gwmpas 100 awr
o deledu a thros 80 awr o radio.
Gwyl y Bobl yw hon -gyda mwy o wirfoddolwyr yn cynorthwyo na’r
un gwyl arall yng ngwledydd Prydain.
Bydd dros 170,000 o bobl yn ymweld â'r Brifwyl - o bob rhan
o'r byd.
|
 |

|