Gwybodaeth i Rieni ac Athrawon

Mae Saffari Gwyddoniaeth yn rhan o gasgliad o wefannau addysgol gan y BBC ar gyfer plant 7-11 oed. Mae'r adnoddau canlynol hefyd yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2:


Dewch i ddysgu am greaduriaid y fforest law, priodweddau defnyddiau a grymoedd gyda Saffari Gwyddoniaeth. Cewch deithio o gwmpas ynys mewn fan ac ymweld â thair gêm wahanol. Mae yna 90 o gardiau gwyddoniaeth aml-gyfrwng i'w casglu a'u gwylio hefyd.

Gallwch chi fynd at y gemau naill ai drwy glicio ar y map ar ochr chwith y sgrin neu wrth yrru'r fan ar hyd y ffordd. Mae cardiau gwyddoniaeth yn cael eu hennill am gwblhau'r gemau yn llwyddiannus. Bydd y fan yn codi unrhyw gardiau fydd yn ymddangos ar y ffordd. Gallwch chi newid lliw y fan ac ychwanegu patrymau, olwynion newydd a chyrn swnllyd pan fyddwch chi'n galw yn y tri garej ar yr ynys!

Ewch i gefn y fan i ddosbarthu'r cardiau gwyddoniaeth aml-gyfrwng i'r adrannau cywir er mwyn cael edrych arnyn nhw. Pan fyddwch chi wedi casglu mwy nag un copi o'r un cerdyn gallwch chi ei gyfnewid am un arall gyda'r cyfrifiadur.

Cliciwch ar y botwm Casglu Cardiau os ydych chi am gadw y cardiau rydych chi'n eu casglu ar eich cyfrifiadur tan y tro nesaf.

Galw Milio
Gêm blatfform yw Galw Milio sy'n cyflwyno gwybodaeth am briodweddau un deg tri o ddefnyddiau cyffredin. Bydd angen defnyddio'r wybodaeth yma i ddatrys y posau sy'n rhan o'r gêm.

Tric y Trychfil
Yn ngêm Tric y Trychfil mae'n rhaid darganfod pedwar grŵp o greaduriaid sy'n cuddio mewn fforest law cyn defnyddio allwedd syml i ddarganfod eu henwau. Mae fideos byr ar gael yn dangos pob un o'r creaduriaid.

Dewch i Greu
Gêm am ffrithiant a grym yw Dewch i Greu sy'n rhoi cyfle i chi greu eich peiriant pinbel unigryw eich hun. Mae modd arbed y peiriant er mwyn ei chwarae a'i wella rywbryd eto.

Arbed gwaith
Bydd angen clicio ar y botwm Casglu Cardiau er mwyn cadw'r cardiau sydd eisoes wedi cael eu casglu. Gallwch chi hefyd gadw peiriant pinbel o gêm Dewch i Greu. Bydd y cardiau a'r peiriant pinbel yma ond yn cael eu harbed ar y cyfrifiadur lle rydych chi'n gweithio ar y pryd a dim ond ar y peiriant hwnnw bydd modd ail-lwytho'r cardiau sydd wedi cael eu casglu a'r peiriant pinbel yn y dyfodol.

Os byddwch chi'n arbed sawl darn mawr o waith ar yr un cyfrifiadur mae hi'n bosib bydd bocs deialog yn ymddangos fydd yn gofyn a ydych chi am ganiatáu'r rhaglen i ddefnyddio mwy o gof y cyfrifiadur. Bydd angen cytuno i hyn cyn gallu arbed mwy o waith.

Mae modd dileu proffil penodol neu'r holl broffiliau sydd ar eich cyfrifiadur trwy fynd i'r dudalen rheoli proffiliau.

Cymorth Sain a gweledol
Cliciwch ar y botwm 'Cymorth clyweledol' er mwyn:
• newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
• clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen
• arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain.

Allwch chi ddim clicio ar y botwm 'Cymorth clyweledol' tra eich bod chi'n darllen y Nodiadau Rhieni ac Athrawon.

Gallwch ddefnyddio'r bysellfwrdd i symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys.

Cefn y Fan

Dyma'r lle i wylio'r cardiau fideo gwyddoniaeth rydych chi'n eu casglu. Mae rhai yn cynnwys fideos i'w gwylio tra bod y gweddill yn gardiau sy'n cynnig syniadau am weithgareddau. Bydd angen gosod y cardiau yn y grŵp cywir cyn gallu eu gwylio neu eu darllen. Os oes gennych chi fwy nag un copi o'r un cerdyn mae modd cyfnewid y cerdyn am un arall gyda'r cyfrifiadur. Cliciwch ar y fan neu ar eicon Cefn Y Fan ar ben y sgrîn er mwyn mynd i'r cefn.

Gyrru'r Fan
Defnyddiwch y bysellau saethau i symud y fan o gwmpas y trac. Byddwch yn dod ar draws y gemau wrthi i chi yrru o gwmpas yr ynys ac fe gewch chi ddewis a ydych chi am chwarae'r gêmau neu beidio. Pan fyddwch chi'n stopio yn un o'r tri garej gallwch chi addasu'r fan trwy newid ei lliw ac ychwanegu patrymau, cyrn swnllyd ac olwynion newydd. Cliciwch ar y botwm Gosodiadau i gael gwared ar y gerddoriaeth neu'r map.

Trefnu Cardiau
Bydd rhaid i chi fynd i gefn y fan er mwyn edrych ar y cardiau rydych chi wedi eu casglu ac mae pawb yn cael pum cerdyn cyn dechrau. Unwaith rydych chi yng nghefn y fan cliciwch ar y sgrîn ganol i ddosbarthu'r cardiau sydd newydd eu casglu. Bydd y cardiau newydd yn cael eu danfon naill ai i'r sgrîn drefnu sydd ar y chwith neu'r sgrîn ffeirio ar y dde.

Yn y sgrîn ddosbarthu bydd rhaid i chi osod pob cerdyn yn y grŵp cywir.


Pethau Byw
Grymoedd
Defnyddiau
Molysgiaid a Chramenogion Ffrithiant Priodweddau
Planhigion a Ffyngau Gwthio a Thynnu Gwresogi ac Oeri
Mamaliaid Symudiad a Chyfeiriad Newid Defnyddiau
Pryfed Gwrthiant Dŵr ac Aer
Adar

Cyfnewid Cardiau
Pan fyddwch chi'n casglu mwy nag un copi o'r un cerdyn gallwch chi ei gyfnewid am un arall gyda'r cyfrifiadur. Cliciwch ar y sgrîn ffeirio ar ochr dde y fan. Llusgwch eich cerdyn i'r trobwll glas a gwyn a bydd y cyfrifiadur yn rhoi un arall i chi yn ei le.

Bydd Help yn chwarae pan ewch chi i gefn y fan am y tro cyntaf. Mae modd ail chwarae'r help unrhyw bryd wrth glicio ar y golau coch.

Galw Milio

Mae'r gêm yma'n gofyn i chi ddefnyddio eich gwybodaeth am briodweddau 13 o ddefnyddiau cyffredin i helpu Milio ddatrys posau. Mae cyfle i chi ddysgu am briodweddau'r defnyddiau gyda'r Fainc Ddefnyddiau yn gyntaf.

Mainc Ddefnyddiau
Mae'r Fainc Defnyddiau yn profi priodweddau'r defnyddiau canlynol:


Papur Siwgr
Rwber Caws
Metel Toes
Carreg Sbwng
Pren Gwlân Cotwm
Siocled Ffoil
Gwydr

Gallwch chi brofi cryfder, caledrwydd, fflamadwyedd, hyblygrwydd ac amsugnedd y defnyddiau yma. Mae yna wybodaeth ychwanegol sy'n egluro o lle daw pob defnydd ac i ba bwrpas mae'n cael ei ddefnyddio.

Gemau

Mae dewis o ddwy lefel i chwarae, sef Taith 1 a Taith 2. Gallwch chi chwarae gêm â phosau neu ddatrys y posau yn unig, sy'n eich galluogi i ganolbwyntio ar y defnyddiau a'u priodweddau heb orfod chwarae'r gêm.

Y wobr am dywys Milio i ben ei daith yw cerdyn gwyddoniaeth arall yn ogystal â bathodyn i'w argraffu!

> Chwarae Galw Milio

Tric y Trychfil

Nod y gêm hon yw defnyddio allwedd syml i grwpio creaduriaid yn ôl eu nodweddion gweledol er mwyn darganfod eu henwau. Ar ôl dosbarthu'r creaduriaid yn llwyddiannus gallwch chi wylio fideos byr amdanyn nhw.

Y cam cyntaf yw dewis pa un o bedwar grŵp o greaduriaid y fforest law i'w astudio.

Grŵp 1
Ceiliog y Rhedyn, Tarantwla, Neidr Filtroed Goesgoch, Chwilen Gorniog.

Grŵp 2
Pili-pala Ulysses, Pili-pala Heliconia, Morgrugyn Heidiol, Sgorpion Ymerodrol.

Grŵp 3
Neidr Filtroed Fawr, Mursen Fawr, Chwilen y Dom, Pry copyn neu Gorryn Gwe Gylchog.

Grŵp 4
Pili-pala Heliconia, Chwilen Gorniog, Pry copyn neu Gorryn Hela, Neidr Gantroed Bengoch.

Defnyddiwch y chwyddwydr i ddarganfod y creaduriaid sy'n cuddio yn y fforest law.

Pan fyddwch chi'n cwblhau'r dasg yn llwyddiannus byddwch chi'n ennill bathodyn i'w argraffu a cherdyn gwyddoniaeth arall ar gyfer eich casgliad!

> Chwarae Tric y Trychfil

Dewch i Greu

Pwrpas Dewch i Greu yw adeiladu peiriant pinbel. Gêm ffiseg yw hi sy'n ymdrin â grymoedd gwthio a thynnu, ffrithiant, bownsio a gwrthdaro. Gallwch chi addasu un o'r peiriannau pinbel parod neu ddechrau o'r dechrau a chreu un unigryw eich hun. Bydd rhaid i chi arbrofi gyda gwahanol rannau'r peiriant ac amrywio eu garwedd, cryfder gwthiad, bowns a phwysau er mwyn cael y peiriant i weithio.

Mae gennych chi ddewis o dair thema sef Chwaraeon, Anialwch neu Tanddwr. Bydd rhai o'r gwrthrychau sy'n cael eu defnyddio i greu'r peiriannau yn amrywio o un thema i'r llall.

Ar ddechrau'r gêm bydd peiriant wedi ei greu yn barod. Gallwch chi addasu hwn neu wasgu'r botwm clirio sgrin i ddechrau adeiladu peiriant pinbel newydd sbon. I ennill cerdyn gwyddoniaeth mae'n rhaid i'ch peiriant saethu'r bêl i mewn i'r fasged neu'r gasgen, yn dibynnu ar y thema rydych chi wedi ei dewis.

Bydd robot yn ymddangos ac yn cynnig help yn ystod y gêm ac yn egluro beth i'w wneud gyda'r gwrthrychau gwahanol.

Arbed Gwaith
Byddwch chi'n gallu arbed cyfanswm o naw gêm, sef tair gêm ym mhob un o'r tair thema. Os byddwch chi'n arbed mwy o gemau byddan nhw yn cymryd lle gemau sydd eisoes wedi cael eu harbed. Bydd eich peiriannau pinbel chi ond yn cael eu harbed ar y cyfrifiadur lle rydych chi'n gweithio ar y pryd a dim ond ar y peiriant hwnnw bydd modd ail-lwytho'r peiriannau pinbel yn y dyfodol.

Mae modd dileu proffil penodol neu'r holl broffiliau sydd ar eich cyfrifiadur trwy fynd i'r dudalen rheoli proffiliau.

> Chwarae Dewch i Greu